Rydym yn falch o fod yn rhan o'r ddarpariaeth Ieuenctid Cymraeg, CFTi yma yn y ddinas!
Dyma bartneriaeth newydd sbon rhyngddom ni'r Fenter, Urdd Caerdydd a'r Fro a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd!
Clybiau Gruff yn Ysgol Bro Edern
Clybiau Gruff yn Ysgolion Ail Iaith
Swyddog Ieuenctid
Dyma Gruff, Swyddog Ieuenctid ein Menter! Fel rhan o dîm CFTi, mae ei rôl yn ffocysu ar ehangu ein darpariaeth Cymraeg yn Ysgolion Cymraeg ac Ail Iaith o dalgylch Bro Edern.
Dyma'r ysgolion rydym ni'n gwasanaethu yn nwyrain y ddinas:
- Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
- Ysgol Uwchradd Caerdydd
- Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi
- Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant
- Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Yng Nghymru Teilo Sant
- Ysgol Uwchradd Y Dwyrain