Chwilio am gyfle i siarad Cymraeg?
Pris: Am Ddim
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion rhai o'r sesiynau anffurfiol i siaradwyr Cymraeg o bob lefel sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd.
Os ydych chi'n rhedeg grŵp nad yw'n cael ei gynnwys yma – cysylltwch! Rydym yn ymdrechu i gadw'r wybodaeth yn gyfredol felly plis gadewch wybod os bydd manylion y sesiynau'n newid. (Cyswllt: Rachel)
DYDD LLUN
Criw'r Village Inn, Pentwyn, CF23 8AJ -10.30yb - Cyfle i siaradwyr Cymraeg o bob gallu sgwrsio ac ymarfer eu Cymraeg.
Clonc Bore Llun. Yr Awr Hapus. Yn cwrdd yn nhafarn yr Hollybush, Coryton / yr Eglwys Newydd rhwng 10.45 a 11.45 ac weithiau ar Zoom rhwng 10.45 a 11.25.
Cysylltwch ag Eirian neu, @GwilymDafydd ar X am fwy o fanylion.
Clonc yn y Cwtsh
Criw hwyliog sy'n cwrdd i sgwrsio yn Chapter ar nosweithiau Llun o 7.00yh. Croeso i bawb. Os ydych chi'n meddwl dod am y tro cyntaf, cysylltwch â Rwth - Clonc yn y Cwtsh
DYDD MAWRTH
Grŵp sgwrsio anffurfiol sy'n cwrdd yng nghaffi Castell Caerdydd. 10.30-11.30yb. I ymuno: Rachel
Gerddi'r Rheilffordd, y Sblot
Criw cyfeillgar sy'n cwrdd rhwng 12.30 a 1.30yp i ymarfer eu Cymraeg. Am fwy o wybodaeth: Hannah // 07542 074303
Clonc yn y Bae
Cyfle i ymarfer siarad Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar ac anffurfiol yng nghwmni Mair a'r criw. Mae'r grŵp yn cwrdd mewn caffi ym Mae Caerdydd am 2.00 y prynhawn. Cysylltwch â Rachel i gael manylion cyswllt Mair, y trefnydd.
DYDD MERCHER
Grŵp Darllen Cant a Mil – 1.30-3.15yp bob dydd Mercher yng Nghaffi One2Two, Whitchurch Road, CF14 3JN.
Am fwy o fanylion: 029 2021 2474 neu Jo
Clonc yn Hyb (Llyfrgell) Radur
2.00-3.15yp yng nghwmni Ann a Ken Passmore. Rhif y Hyb yw 029 2078 0996.
Gweithdy Gemau Bwrdd, ychydig dros y ffin ym Mhentre'r Eglwys, Pontypridd
1.30yp Canolfan yr Olwg, Heol Sant Illtud, CF38 1RQ (pob dydd Mercher heblaw am wyliau'r ysgol). Rhif: 01443 570075
DYDD IAU
Grŵp newydd yn dechrau yn Hyb Rhydypennau Hub o 12 Medi. Bob yn ail wythnos. Does dim rhaid bwcio - dewch ar y diwrnod! 12 + 26 Medi; 10 + 24 Hydref; 7 + 21 Tachwedd; 5 + 19 Rhagfyr. Rachel
Pear Tree, Heol Wellfield, CF24 3PE - Croeso i bawb sy'n siarad Cymraeg neu'n dysgu. 11:00yb.
Clonc yng Nghastell Caerdydd rhwng 1.00 a 2.00 y prynhawn. Croeso i bawb ymuno â ni am sgwrs. Cysylltwch ag Eirian neu @GwilymDafydd ar X am fwy o fanylion.
Grŵp newydd yn cwrdd yn y Llyfrgell Ganolog - bob dydd Iau cynta'r mis rhwng 3.00-4.00yp. Cysylltwch â Gwilym neu @GwilymDafydd ar X
DYDD GWENER
Brecwast Cymraeg Cant a Mil, bob dydd Gwener
9:00-10:00yb yng Nghaffi One2Two, Whitchurch Road, CF14 3JN. Croeso mawr i bawb!
Am fwy o fanylion: 029 2021 2474 neu Jo
Bore Coffi Misol i Ddysgwyr ar Zoom wedi'i drefnu gan Menter Caerdydd a Dysgu Cymraeg Caerdydd. I ymuno: Rachel
DYDD SADWRN
Clwb Gwylio Adar Misol - bore Sadwrn cyntaf y mis. Cwrdd ger Canolfan y Wardeniaid, Fferm y Fforest gyda theithiau i fannau eraill o bryd i'w gilydd. Cwrdd am 10.00 yn yr haf ond am 10.30 yn yr hydref a'r gaeaf. Am fanylion pellach, cysylltwch ag Eirian
Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn trefnu llu o weithgareddau ar gyfer y rhai sy'n dilyn cyrsiau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau sgwrsio wyneb yn wyneb ac ar Zoom; Peint a Sgwrs unwaith y mis yn y Daffodil, Windsor Place; taith gerdded yng Nghaerdydd un dydd Gwener y mis; Sesiwn Hanes Cymru fisol a Chlwb Cwrw misol yn yr Albany, Donald St, y Rhath.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwenllian Willis: Gwenllian
Cofiwch hefyd am dudalen Calendr Caerdydd sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am ddigwyddiadau Cymraeg yng Nghaerdydd.
Grwpiau eraill yng Nghaerdydd:
Grŵp Cymraeg Caerdydd | Welsh Language Group Cardiff | Facebook
Laffwyl Tachwedd 2024
Yn y gyfres newydd o Laffwyl mae'r arlwy, fel arfer yn wych! Dan ofal Aled Richards, dere i godi calon wrth gael laff!
Pris: £10
Cinio Nadolig Criw Cymraeg Castell Caerdydd 2024
Cliciwch yma i dalu am ginio Nadolig Criw Cymraeg Castell Caerdydd
Pris: £10
Twmpath i'r Teulu
Cyfle i ddawnsio a mwynhau ychydig o hwyl ar ddydd Sadwrn olaf hanner tymor
Pris: £6
Taith Dywys: Canolfan Mileniwm Cymru
Taith y tu ôl i'r llen yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
MAE'R COFRESTRU BELLACH WEDI CAU.
Pris: £12
Gwnio a Tecstiliau Hydref 24 LLAWN
Cyfres newydd o wersi, dan ofal Janet James, yn canolbwyntio ar sgiliau gwnio yn defnyddio peiriant.
CWRS YN LLAWN.
Pris: £25
Sesiynau Adolygu Mathemateg 16+
Ydych chi'n ddi-hyder wrth ddefnyddio Mathemateg?
Dewch i ymuno yn ein sesiynau anffurfiol. Cyfle i adolygu sgiliau TGAU neu wella eich sgiliau Mathemateg ar gyfer y byd gwaith mewn awyrgylch groesawgar.
Croeso mawr i bawb.
Pris: Am Ddim
Ioga Hydref 2024 LLAWN
Dewch i ymuno gyda'r hyfforddwr Kate Griffiths i ddysgu technegau anadlu a sut i wella hyblygrwydd a chryfder y corff.
Addas i bob lefel.
Pris: £70
Hanes Cymru: Chwyldro Addysgiadol yng Nghymru
3 sesiwn ar Zoom yn trafod agweddau gwahanol ar ddysgu Hanes Cymru yn ein hysgolion.
Pris: £12.00
Y Gerddorfa Ukulele Hydref 2024
Dewch i ymuno yn yr hwyl wrth i Mei Gwynedd a'r Gerddorfa Ukulele ddathlu 10 mlynedd eleni. Addas i chwaraewyr o bob lefel. Croeso mawr i aelodau newydd.
Pris: £80
Pilates Hydref 2024 LLAWN
Ymunwch gyda Mari-Wyn i ymarfer a datblygu cryfder a hyblygrwydd.
LLAWN
Pris: £78
Cynganeddu i Ddechreuwyr 2024-25
Dewch i ddysgu mwy am y grefft o gynganeddu dan arweiniad Gethin Wyn Davies.
Gallwch gofrestru gyda'r dosbarth yma i gael mynediad ar lein os dymunwch.
Pris: £95
Cynganeddu Profiadol 2024-25
Dewch i ymuno gyda'r dosbarth profiadol i ymarfer a mireinio eich sgiliau cynganeddu dan arweiniad Aron Pritchard.
Pris: £95
Chwilio am gyfle i siarad Cymraeg?
Cliciwch yma i weld manylion rhai o'r grwpiau anffurfiol yng Nghaerdydd ar gyfer y rhai sydd am gwrdd i sgwrsio yn y Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf yn addas ar gyfer dysgwyr a siaradwyr rhugl.
Pris: Am Ddim
Bore Coffi i Ddysgwyr ar Zoom
Sesiwn ar y cyd â Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Sesiwn nesaf: Bore Gwener, 25 Hydref 2024.
Dim cyfarfod ym misoedd Gorffennaf ac Awst
Pris: Am Ddim
LLAWN - Tai Chi (Hyb Rhydypennau) - Tymor yr Hydref 2024
Dosbarth Tai Chi - yn addas ar gyfer oedolion o bob oed
Pris: £58.50
Ffitrwydd gyda Ffrinidau - 75+ oed
Sesiynau ffitrwydd wedi’u teilwra ar gyfer y rhai dros 75 oed.
Pris: Am Ddim