Gweithdy Gwyddoniaeth Pencae gyda Sparklab!
Pris: £11
Berllan Deg - Gweithdy Gwyddoniaeth gyda Sparklab!
LLAWN!
YSGOL Y BERLLAN DEG
Mae adweithiau cemegol yn digwydd mewn bywyd bob dydd - llosgi, coginio, rhydu, treulio bwyd! Dere i gymryd rhan mewn arbrofion hwyliog i ddeall mwy!
Pris: £12
Pencae - Gweithdy Gwyddoniaeth gyda Sparklab!
YSGOL PENCAE
Mae adweithiau cemegol yn digwydd mewn bywyd bob dydd - llosgi, coginio, rhydu, treulio bwyd! Dere i gymryd rhan mewn arbrofion hwyliog i ddeall mwy!
Pris: £12
Clwb Ioga i Blant!
Sesiwn ioga creadigol i blant fydd yn cynnwys technegau anadlu, symudiadau yoga a gemau di-ri - cyfle i dawelu’r meddwl, symud y corff, hybu hunan hyder a chael hwyl a sbri!
Mae ioga wedi dangos ei fod yn gwella ffocws, canolbwyntio, dealltwriaeth a chof. Mae'r ystumiau yn helpu i wella ffitrwydd corfforol trwy wella cydbwysedd, cydsymud ac ymwybyddiaeth o'r corff.
Bydd Kate yno i ddangos y ffordd - yn gryfach, iachach ac yn hapusach!
Pris: £36
Dawns a Drama Bach y Dre!
LLAWN!
Derbyn - Bl2? Dere i ymuno â Fflur a Kim mewn sesiynau hwyliog dawns a drama ar foreau Sadwrn!
Sesiynau llawn hwyl i fagu hyder corfforol a llafar!
Pris: £36
Drama Mawr y Dre!
Bl3-6? Dere i ymuno â Fflur a Kim mewn sesiynau drama ar foreau Sadwrn!
Perfformio, sgriptio, neu gefn llwyfan, dyma’r clwb i ti!
Pris: £42
Bwrlwm!
Mae Cynllun Chwarae Mynediad Agored Bwrlwm yn rhedeg yn ystod pob gwyliau ysgol (heblaw Nadolig) mewn 6 o leoliadau i'w cadarnhau yn agosach at y dyddiad. Wedi'i anelu at blant oedran cynradd ac am ddim i blant sy'n mynychu, mae'n gynllun cynhwysol ac yn anelu at greu awyrgylch o ddychymyg i blant ar draws Caerdydd. Byddwn yn cynnig llwyfan cyffrous i blant ymgysylltu mewn chwarae creadigol a sefydlu cyfeillgarwch barhaus! Mae Menter Caerdydd yn ymrwymo i feithrin cymuned fywiog a chefnogol sy'n gwerthfawrogi llesiant a datblygiad plant, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Edrychwn ymlaen at wyliau hanner tymor yr Hydref!
Pris: Am Ddim