Swyddog Gweinyddol
Jul 4, 2023
Swydd yn Ysgol Plasmawr
Swyddog Gweinyddol Gradd 5
Cyflog Graddfa 5 SCP11-19 (£25,496 - £29,523 pro rata)
Dewch i ymuno â thîm gweinyddol Ysgol Plasmawr.
Rydym yn recriwtio ar gyfer swyddog gweinyddol i ddechrau yn Medi 2023.
Mae hon yn Swydd parhaol 37 awr yr wythnos yn ystod y tymor un unig, o ddydd Llun i Ddydd Gwener.
Lleolir Ysgol Plasmawr yn y Tyllgoed yng ngogledd orllewin Caerdydd. Mae gan yr ysgol dros 1200 o ddisgylion a dros 120 o staff.
Rydym yn chwilio am berson trefnus, brwdfrydig â thechnegol ei sgiliau, i weithio fel rhan o tim gweinyddol, ydachi yn gallu cynnig y canlynol
• Profiad o ddyletswyddau ysgrifenyddol/gweinyddol.
• Sgiliau trefnu a chyfathrebu da.
• Profiad o fewnbynnu data.
• Cyfeillgar a chymwynasgar gydag agwedd frwdfrydig at waith.
• Cwrdd â therfynau amser ac arfer barn wrth gymryd camau annibynnol pan fo angen.
• Dull proffesiynol, cwrtais, hyderus a pharhaus.
• Y gallu i ddefnyddio eich crebwyll eich hun a gwneud penderfyniadau ar eich menter eich hun.
• Y gallu i flaenoriaethu a gweithio'n rhagweithiol, heb fawr o oruchwyliaeth, o dan bwysau ac o fewn terfynau amser.
• Sgiliau datrys problemau ardderchog.
• Sgiliau TG rhagorol mewn Microsoft Office a phecynnau cysylltiedig.
• Medrus yn y defnydd o ystod o becynnau meddalwedd TG perthnasol SIMS, FMS ac Edulink. Byddai profiad yn fanteisiol ond ddim yn anghenrheidiol i’r ymgeisydd llwyddianus gan bydd hyfforddiant ar gael.
• Sylw mawr i fanylion a'r gallu i weithio ar lefel uchel o gywirdeb.
• Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog a'r gallu i gyfathrebu'n hyderus ag ystod eang o bobl ar bob lefel gan gynnwys staff a chysylltiadau allanol.
• Profiad o weithio mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
• Y gallu i ddangos dealltwriaeth a gwybodaeth am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth.
• Y gallu i ddangos dealltwriaeth a gwybodaeth am ddiogelu a hyrwyddo lles plant.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno gyda tîm gweinyddol profiadol sydd yn cynnig cymorth gweinyddol i’r ysgol gyfan. Disgwylir hyblygrwydd o ran dyletswyddau, bydd angen i’r person llwyddiannus gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol.
Bydd cais yn cael i wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Dylid anfon ffurflen gais a llythyr sy’n amlinellu eich profiad blaenorol a’ch cymwysterau ar gyfer y swydd at sylw Dr Rhodri Thomas, Pennaeth.
Dyddiad cau: 12pm dydd Gwener 7ed Gorffennaf 2023
I dderbyn ffurflen gais, disgrifiad swydd a gwybodaeth bellach am y swydd hon dylid cysylltu gyda Mrs Sandra Jones (Rheolwr Busnes) 029 20 405 499 neu drwy e-bost i swyddi@ysgolplasmawr.cymru